Gogledd Macedonia yw’r enw newydd ar y wlad oedd yn arfer cael ei hadnabod fel Macedonia.

Bydd yr enw newydd yn cael ei ddefnyddio y tu fewn a thu allan i’r wlad yn dilyn cytundeb â Groeg i ddod ag anghydfod i ben ar ôl rhai degawdau.

Yn ôl y ddwy wlad, bydd y cytundeb tros yr enw newydd yn arwain at fagu perthynas agosach a mwy cyfeillgar rhwng y ddwy wlad.

Fel rhan o’r cytundeb, fe fydd hawl gan Ogledd Macedonia wneud cais i fod yn aelod o Nato a’r Undeb Ewropeaidd.

Llofnodi’r cytundeb

Cafodd y cytundeb newydd ei lofnodi ym mhentref Psarades gan weinidogion tramor y ddwy wlad, Nikos Kotzias a Nikola Dimitrov, ac arweinwyr y ddwy wlad, Alexis Tsipras a Zoran Zaev yn bresennol.

Hefyd yn bresennol roedd cynrychiolwyr o’r Cenhedloedd Unedig a’r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Alexis Tsipras fod y digwyddiad yn un “hanesyddol”, ac mai “prin iawn oedd y bobol oedd yn credu y byddem yn llwyddo” i ddod â’r anghydfod i ben.

Protestiadau

Ond nid pawb oedd yn hapus gyda’r cytundeb, wrth i 4,000 o brotestwyr ymgynnull ym mhentref Pisoderi i ddangos eu dicter, 25 milltir i ffwrdd o Psarades, oedd wedi cael ei gau i’r cyhoedd.

Yn Pisoderi, fe daflodd y dorf gerrig at yr heddlu, ac fe fu’n rhaid eu tawelu â nwy ddagrau.

Mae disgwyl i genedlaetholwyr Macedonia ymgynnull yn ninas Bitola ger y ffin â Groeg yn ystod y dydd heddiw.

Fe fu Groeg yn gwrthwynebu’r enw Macedonia ers peth amser, gan awgrymu bod arddel yr enw yn awgrymu bod y wlad wedi meddiannu rhanbarth yng ngogledd Groeg sy’n dwyn yr un enw.

Ni chafodd Macedonia ei dderbyn fel enw swyddogol gan y Cenhedloedd Unedig tan 1993 yn sgil hynny a hyd yn oed wedyn, fe gafodd yr enw Cyn-Weriniaeth Iwgoslafia Macedonia (FYROM).