Mae’r heddlu ym Mosgo yn ymchwilio ar ôl i yrrwr tacsi daro wyth o gerddwyr yn ardal y Sgwâr Coch.

Roedd cefnogwyr pêl-droed o Fecsico ymhlith y rhai a gafodd eu hanafu.

Wrth gael ei holi, dywedodd y gyrrwr ei fod e wedi cwympo i gysgu wrth y llyw ac wedi taro’r sbardun ar ddamwain.

Doedd e ddim wedi cysgu ers 20 awr, meddai, ac fe ddywedodd ei fod e wedi ffoi yn dilyn y digwyddiad am ei fod yn ofni y byddai pobol a welodd y digwyddiad yn ei ladd.

Dydy’r heddlu ddim wedi cadarnhau a fydd y digwyddiad yn eu gorfodi i addasu eu camau diogelwch ar gyfer Cwpan y Byd, sy’n cael ei gynnal yn y wlad ar hyn o bryd.