Mae Tsieina wedi taro’n ôl mewn anghydfod masnachol yn erbyn Donald Trump trwy godi trethi o 34 biliwn o ddoleri ar fewnforio gwahanol nwyddau o America.

Fe fydd treth ychwanegol o 25% o 6 Gorffennaf ymlaen ar dros 500 o gynhyrchion o America gan gynnwys ffa soya, ceir trydan, sudd oren a whisgi.

Dywedodd llywodraeth y wlad eu bod yn ymateb ar raddfa gymesur i drethi Donald Trump ar nwyddau o China.

“Does ar Tsieina ddim eisiau rhyfel mansachol ond mae’n rhaid iddi daro’n ôl yn gryf,” meddai’r Weinyddiaeth Masnach mewn datganiad.

Gan mai ar fwyd a nwyddau fferm y mae’r rhan fwyaf o’r trethi newydd, cefnogwyr gwledig Donald Trump sy’n debygol o gael eu taro galetaf.

Mae’n ymddangos fod Tsieina yn ceisio lleihau’r effaith ar ei heconomi ei hun trwy drethu cynhyrchion y gall eu prynu o wledydd eraill fel Brasil ac Awstralia.