Mae gweithwyr mewn ffatri yn Rwsia yn gobeithio cynnal protest i gyd-daro â gêm gyntaf Lloegr yng Nghwpan y Byd.

Bellach, mae mesurau arbennig mewn grym yn Rwsia sydd yn golygu bod yn rhaid i ffatrïoedd y wlad weithio mewn ffordd wahanol tra bod y gystadleuaeth yn mynd rhagddi.

A bwriad hyn, yw cyfyngu ar gronfeydd o ddeunyddiau peryglus, a rhwystro brawychwyr rhag medru cael gafael arnyn nhw.

Ond, mae gweithwyr ffatri Hydref Coch eisoes yn wynebu toriadau i’w cyflogau, a dyw’r gweithwyr ddim wedi croesawu’r straen ychwanegol yma.

Felly, bydd y gweithwyr o Volgograd yn gwrthdystio ar Fehefin 18 – diwrnod gêm Lloegr a Thunisia yn yr un ddinas.

“Y bencampwriaeth yw’r flaenoriaeth, daw pobol yn ail i hynny,” meddai’r gweithiwr ffatri, Dmitry Egorov. “Does dim modd i’r bobol oroesi.”