Mae’r corff sy’n goruchwylio’r Adran Gyfiawnder wedi beirniadu’r FBI a’r cyn-gyfarwyddwr James Comey am y modd roedd wedi delio gyda’r ymchwiliad i e-byst Hillary Clinton.

Serch hynny,  mae adroddiad yr arolygydd yn dweud nad oedd unrhyw dueddiad gwleidyddol y tu ôl i’w benderfyniad.

Yn ôl yr adroddiad, roedd James Comey wedi mynd yn groes i’r protocol arferol sawl gwaith.

Mae’r adroddiad yn dweud bod James Comey yn anghywir i gyhoeddi ei fod yn ail-agor yr ymchwiliad i’r defnydd o e-byst personol Hillary Clinton wythnos cyn yr etholiad arlywyddol.

Fe gyhoeddodd yn yr haf 2016 na fyddai Hillary Clinton yn cael ei chyhuddo o unrhyw drosedd.

Mae James Comey wedi dweud ei fod yn anghytuno gyda rhai o’r casgliadau yn yr adroddiad ond dywedodd ei fod yn “rhesymol” ar y cyfan.

Yn y cyfamser mae’r Tŷ Gwyn yn dweud bod yr adroddiad yn cadarnhau “amheuon” yr Arlywydd Donald Trump ynglyn ag ymddygiad James Comey a bod yna “dueddiad gwleidyddol ymhlith rhai aelodau o’r FBI.”