Mae aelodau o’r fyddin yn Awstralia wedi cael eu beirniadu am chwifio fflag Natsïaidd ar gerbyd tra oedden nhw’n gwasanaethu yn Afghanistan dros ddegawd yn ol.

Daw hyn ar ôl i ddarlledwr yn Awstralia gyhoeddi llun a dynnwyd yn 2007 sy’n dangos y fflag Natsïaidd yn chwifio uwchben cerbyd patrol rhywle yn Afghanistan.

Mae lluoedd elitaidd y fyddin ar hyn o bryd o dan ymchwiliad gan archwilydd y lluoedd arfog, ac mae’n dilyn ymchwiliad arall i honiadau o ladd anghyfreithlon gan aelodau o’r fyddin Awstralia.

Yn ôl Prif Weinidog Awstralia, Malcolm Turnbull, roedd y digwyddiad yn un “cwbwl annerbyniol”, gan ychwanegu bod y fflag wedi cael ei thynnu i lawr yn syth yn ystod y digwyddiad.

Mae’r Adran Amddiffyn wedyn wedi dweud ei bod nhw’n “gwrthod” yr hyn y mae’r fflag yn ei chynrychioli, ac nad yw’n adlewyrchu “gwerthoedd” yr adran.