Mae trafodaethau rhwng Gogledd Corea a’r Unol Daleithiau yn “mynd yn well na’r disgwyl”, yn ôl llefarydd ar ran y Tŷ Gwyn.

Daw’r sylw wrth i’r ddwy ochr baratoi am gynhadledd rhwng eu harweinyddion.

Ddydd Mawrth (Mehefin 12), mi fydd Donald Trump a Kim Jong Un yn cyfarfod am y tro cyntaf yn Singapôr, gan obeithio taro bargen tros gytundeb niwclear Gogledd Corea.

Nod yr Unol Daleithiau yw annog y wlad i gefnu ar eu rhaglen niwclear, tra bod peth amwyster ynglŷn â safiad Kim Jong Un ar y mater.

Mae’n ymddangos bod gan Donald Trump ddisgwyliadau uchel am y digwyddiad, a bellach mae wedi dod i’r amlwg y bydd yn gadael y gynhadledd oriau’n gynharach na’r disgwyl.