Mae mwy na 600 o bobol wedi cael eu lladd yn Yemen yn sgil ymladd rhwng yr awdurdodau a gwrthryfelwyr Shia yng ngorllewin y wlad.

Mae lluoedd Llywodraeth Yemen, sy’n cael eu cefnogi gan Saudi Arabia a’i chynghreiriaid, wedi bod yn ennill tir yng ngorllewin yr Yemen yn yr wythnosau diwetha’ wrth frwydro’r grŵp o wrthryfelwyr, yr ‘Houthis’.

Mae’r ymladd wedi dwysáu yn ddiweddar wrth i luoedd y Llywodraeth agosáu at ddinas Hodeidah, sy’n borthladd pwysig yn Yemen.

Rhyfel Yemen

Mae’r Llywodraeth a’i chynghreiriaid wedi bod yn brwydro’r gwrthryfelwyr, sy’n cael eu cefnogi gan Iran, ers mis Mawrth 2015.

Bwriad y rhyfel yw adfer llywodraeth yr Arlywydd Abed Rabbo Mansour Hadi, sydd ar hyn o bryd yn byw mewn alltudiaeth.

Mae dros 10,000 o bobol wedi’u lladd yn y rhyfel hyd yn hyn ac mae dros dair miliwn wedi’u dadleoli.

Mae’r Cenhedloedd Unedig yn ystyried y rhyfel fel y trychineb dynol gwaetha’ yn y byd, gyda dros 22.2m o bobol mewn angen.