Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau ac arweinydd Gogledd Corea wedi cyrraedd Singapôr ar gyfer yr uwchgynhadledd hanesyddol rhyngddyn nhw.

Fe gyrhaeddodd Donald Trump ar ôl treulio’r penwythnos yng Nghanada, lle bu’n cwrdd ag arweinwyr eraill y byd yn uwchgynhadledd y G7.

Fe gyrhaeddodd Kim Jong Un ychydig oriau ynghynt, ac ar ôl cyfarch rhai swyddogion Singapôr, fe gafodd ei gludo i’w westy.

Mae disgwyl i’r ddau arweinydd gwrdd fore dydd Mawrth (Mehefin 12) yn yr uwchgynhadledd cyntaf rhwng arweinydd Gogledd Corea ac arlywydd yr Unol Daleithiau.

Gobethion

Un o brif amcanion yr Unol Daleithiau yn yr uwchgynhadledd yw ceisio darbwyllo Gogledd Corea i roi’r gorau i’w chynllun arfau niwclear, er bod Donald Trump wedi awgrymu yn ddiweddar y bydd angen mwy nag un cyfarfod i gyrraedd y nod hwn.

Mae arbenigwyr yn credu bod Gogledd Corea o fewn dim i ddatblygu arfau a fydd yn gallu cyrraedd tir yr Unol Daleithiau.

Ond er bod yna rai amheuon ynglŷn ag os bydd Kim Jong Un yn rhoi’r gorau iddyn nhw, mae yna obaith am well gyfathrebu rhwng y ddwy wlad, a hynny yn sgil blynyddoedd o densiwn.

Er na fydd y ddau arweinydd yn cyfarfod tan yfory, mae swyddogion y ddwy wlad yn cyfarfod heddiw (dydd Llun, Mehefin 11), lle maen nhw’n cynnal trafodaethau ar bolisi trwy sefydlu “grŵp gweithio”.