Mae’r awdurdodau yn Sbaen wedi achub 334 o ffoaduriaid o Fôr y Canoldir, ond wedi dod o hyd i bedwar o gyrff.

Yn ôl yr awdurdodau, roedden nhw ar naw cwch oedd wedi gadael Affrica ddydd Sadwrn.

Roedd y cwch oedd yn cludo’r cyrff hefyd wedi cludo 49 o ffoaduriaid yn ddiogel. Dydy’r awdurdodau ddim yn gwybod ar hyn o bryd sut y bu farw’r pedwar.

Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae o leiaf 785 o ffoaduriaid wedi marw ym Môr y Canoldir ers dechrau’r flwyddyn.

Libya

Yn y cyfamser, mae’r awdurdodau yn Libya wedi atal 152 o ffoaduriaid rhag cyrraedd y lan oddi ar ddau gwch.

Cawson nhw eu cludo i ganolfan yn Tripoli.

Mae Libya ymhlith y gwledydd mwyaf poblogaidd wrth i ffoaduriaid chwilio am ffordd o groesi i Ewrop.