Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump wedi cefnu ar gytundeb gyda gwledydd y G7 gan alw Prif Weinidog Canada, Justin Trudeau yn “anonest a gwan”.

Mae’r cytundeb masnach wedi achosi cryn anghytuno rhwng Donald Trump ac arweinwyr gwledydd eraill y G7.

Roedd wedi rhybuddio y byddai dial am dariff metel – 25% ar fewnforion dur a 10% ar fewnforion alwminiwm o wledydd gan gynnwys y DU a gweddill yr Undeb Ewropeaidd – yn gamgymeriad.

Fe gyhoeddodd Justin Trudeau fod y gwledydd wedi dod i gytundeb yn ystod uwchgynhadledd oedd yn tynnu sylw at bwysigrwydd “masnach rydd, deg a buddiol i bawb”.

Ond ar ôl ymddangos fel pe bai’n cytuno â sylwadau Justin Trudeau a datgan y byddai’n rhoi “10 allan o 10” i’w berthynas gyda’r arweinwyr eraill, fe wnaeth Donald Trump ymosod yn eiriol ar arweinydd Canada ar wefan gymdeithasol Twitter, a’i gyhuddo o “ddatganiadau ffug”.

Lladd ar y gwledydd eraill

Nid Canada yn unig oedd dan y lach, wrth i Donald Trump gyhuddo’r gwledydd eraill hefyd o “ladrata” oddi ar yr Unol Daleithiau drwy eu polisïau masnach.

Tarodd Prif Weinidog Prydain, Theresa May yn ôl, gan ddweud bod tariffs yn “anghyfiawn”, ac mae hi hefyd yn gwrthwynebu rhoi caniatâd i Rwsia ddychwelyd i’r trafodaethau masnach, er bod Donald Trump yn dweud y byddai Vladimir Putin yn “gaffaeliad”.

Cafodd Rwsia eu gwahardd yn 2014 tros anghydfod y Crimea.

Serch hynny, fe wnaeth Donald Trump dynnu sylw at ei berthynas dda gydag arweinydd yr Almaen Angela Merkel ac arweinydd Ffrainc Emmanuel Macron.