Mae timau achub wedi rhoi’r gorau am y tro i geisio dod o hyd i ragor o bobol yn dilyn ffrwydrad o losgfynydd yn Gwatemala.

Yn ôl yr asiantaeth Conred, sy’n delio gyda thrychinebau o’r fath, mae’r amodau yn rhy beryglus i dimau achub. Mae hefyd yn dweud bod angen cymryd i ystyriaeth bod 72 awr bellach wedi mynd heibio ers y ffrwydrad ddydd Sul.

Mae’n debyg y byddai’n annhebygol iawn dod o hyd i ragor o bobol yn fyw o dan y llwch a’r mwd sydd wedi difrodi cartrefi. Mae glaw trwm hefyd wedi gwneud gwaith y timau achub yn anoddach.

Yn y cyfamser mae erlynwyr yn Gwatemala wedi gorchymyn ymchwiliad i geisio darganfod a oedd canllawiau brys wedi cael eu dilyn gan fod nifer o drigolion wedi cael ychydig iawn o amser, neu ddim rhybudd o gwbl, i adael eu cartrefi.

Erbyn hyn, mae nifer y meirw wedi codi i 109 ac mae’n debyg bod tua 200 o bobol eraill yn dal ar goll.

Mae’r Unol Daleithiau wedi cyhoeddi y bydd yn anfon cymorth dyngarol, yn ogystal ag adnoddau ariannol, i gwrdd ag anghenion dwr, bwyd a glanweithdra.