Cregyn gleision yn cynnwys darnau o blastig a malurion

Diweddarwyd  

Cerrig gleision

Llun: CC0

Mae darnau bach o wastraff plastig a malurion eraill wedi’u canfod ym mhob cregyn gleision a samplwyd o amgylch arfordir ac archfarchnadoedd y Deyrnas Unedig, yn ôl ymchwilwyr.

Mewn samplau o gregyn gleision gwyllt o wyth lleoliad arfordirol ledled gwledydd Prydain a’r rhai a brynwyd o wyth archfarchnad ddienw, canfuwyd bod 100% yn cynnwys microblastigion neu falurion eraill fel cotwm a reion.

Mae halogiad “sylweddol a chyffredin” gan ficroplastigion a malurion eraill o weithgarwch dynol mewn samplau dwr môr arfordirol, cregyn gleision arfordirol a chregyn gleision a brynwyd gan archfarchnad yn y Deyrnas Unedig, dywedodd yr astudiaeth.

Dywedodd gwyddonwyr o Brifysgol Hull a Phrifysgol Brunel Llundain fod y canlyniadau’n dangos bod y defnydd o ficroplastigion gan bobol sy’n bwyta bwyd môr yn y Deyrnas Unedig yn debygol o fod yn “gyffredin ac eang”.

Mae pob 100g o gregyn gleision sy’n cael eu bwyta yn cynnwys tua 70 darn o falurion, yn ôl yr ymchwilwyr.

Mae eu hastudiaeth yn cael ei gyhoeddi yn y cylchgrawn, Environmental Pollution, lle maen nhw’n argymell bod angen rhagor o ymchwil i ddarganfod beth yw goblygiadau cymryd y symiau bach o ficroblastig.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Tywysogion Cymru – pa rai sy’n werth eu cofio?