Mae darlun y gorllewin o Rwsia yn anghywir, yn ôl Arlywydd y wlad.

“Maen nhw’n credu bod Rwsia’n fygythiad,” meddai Vladimir Putin yn ystod ei raglen deledu flynyddol – rhaglen lle mae aelodau’r cyhoedd yn medru gofyn cwestiynau iddo.

“Maen nhw’n sylweddoli bod Rwsia yn cystadlu â nhw bellach … R’yn ni’n credu bod nhw wedi camddeall y sefyllfa.”

Wrth ateb cwestiwn am bosibiliad o drydydd rhyfel byd, dywedodd y ffigwr y byddai arfau niwclear yn rhwystro’r fath sefyllfa.

Yn ogystal, mi gyhuddodd yr Unol Daleithiau o geisio monopoleiddio’r drefn ryngwladol, a galwodd ar wledydd Ewrop i weithio gyda’i gilydd ar sustem diogelwch newydd.