Mae cymdogaeth gyfan wedi cael ei llyncu gan lafa yn Hawaii, wrth i losgfynydd achosi rhagor o drafferth ar brif ynys y dalaith.

Bellach mae cymdogaeth Vacationland wedi’i gorchuddio’n llwyr â chraig hylifol, ac mae’r rhan fwyaf o adeiladau ardal Kapoho wedi’u dinistrio.

Hyd yma mae llosgfynydd Kilauea wedi dinistrio tua 400 o gartrefi.

Er i’r helynt ddechrau rhyw fis yn ôl mae’r llosgfynydd yn parhau’n fyw, a does dim syniad gyda gwyddonwyr ynglŷn â phryd y bydd hyn yn dod i ben.

Mae Hawaii wedi profi ffrwydradau tebyg yn y gorffennol – cafodd 214 cartref eu dinistrio yn mewn un ardal yn 1990 –  ond does dim un wedi achosi cymaint o ddinistr â’r pwl diweddara’.