Fe fydd y gynhadledd rhwng Gogledd Corea a’r Unol Daleithiau yn cael ei chynnal mewn gwesty crand ar ynys yn Singapôr, yn ôl y Tŷ Gwyn.
Mae Gwesty Capella ar Ynys Sentosa, ac y. enwog am ei foethusrwydd.
Bydd arweinydd y ddwy wlad – Kim Jong Un, a’r Arlywydd Donald Trump – yn cyfarfod yno ar Fehefin 12, ac yn ceisio dod i gyfaddawd ar fater rhaglen niwclear Gogledd Corea.
Daw’r trafodaethau yn sgil pwl o ffraeo rhwng y gwledydd – gyda’r ddwy ochr, yn ei thro, yn bygwth cefnu ar y gynhadledd.
Mae disgwyl i Donald Trump aros yng Ngwesty Shangri-La yn ystod y cyfarfod.