Mae’r dylunydd ffasiwn, Kate Spade, wedi ei chanfod yn farw yn ei chartref yn Efrog Newydd.

Yn ôl yr heddlu, fe gafodd ei chorff ei darganfod yn uongian gan ei staff glanhau yn y fflat yn Park Avenue am tua 10.20yb ddoe (dydd Mawrth, Mehefin 5).

Maen nhw hefyd yn dweud ei bod hi wedi gadael llythyr yn y safle.

Pwy oedd Kate Spade?

Fe ddaeth Kate Spade, 55 oed, i enwogrwydd yn ystod y 1990au, wrth ddylunio cyfres o handbags a ddaeth yn boblogaidd iawn.

Mae gan ei chwmni, Kate Spade New York, fwy na 140 o siopau yn yr Unol Daleithiau, a mwy na 175 ledled y byd.