Llun gan planeteyetraveler.com
Cafodd saith o bobl eu lladd a mwy na 150 eu hanafu mewn damwain rhwng dau dren a bws ym mhrifddinas yr Ariannin, Buenos Aires.
Dywed yr heddlu bod gyrrwr y bws wedi bod yn gyrru o gwmpas y rhwystrau mewn ras yn erbyn y trenau i fod y cyntaf dros y cledrau.
Roedd gyrrwr y bws ymhlith y rhai fu farw.