Mae pump o bobol bellach wedi marwa o ganlyniad i E,coli mewn letys yn yr Unol Daleithiau.

Mae swyddogion iechyd yn ymchwilio i’r achosion yn Yuma, Arizona.

Fe ddaeth y tymor tyfu yno i ben chwech wythnos yn ol, ac mae’n annhebygol fod yna letys wedi’u heintio yn dal i fod mewn siopau nac yng nghartrefi prynwyr, meddai’r arbenigwyr.

Ond, fe allai gymryd peth amser i’r salwch ddod i’r wyneb – ac mae achosion yn dal i gael eu hadnabod.

Yn ol yr awdurdodau, mae mwy na 25 o achosion o E.coli wedi’u cofnodi yn ddiweddar. Mae o leia’ 89 o bobol wedi cael eu cludo i’r ysbyty am brofion.

Un farwolaeth oedd wedi’i chofnodi o ganlyniad i E.coli ers Mai 12, a hynny yn nhalaith Califfornia. Ond ddydd Gwener, fe ddaeth pedair arall i’r golwg – un yn Arkansas, un yn Efrog Newydd, a dwy yn Minnesota.