Mae dau o bobol wedi marw wedi i adeilad ddymchwel ym mhrifddinas Cenia.

Mae llefarydd ar ran uned rheoli trychinebau’r wlad wedi cadarnhau fod ymchwiliad bellach ar y gweill, wedi i adeilad pum llawr ddymchwel yn gynnar fore Sul (Mehefin 3) yn ardal Huruma Ngei, Nairobi.

Mae un corff wedi’i dynnu o’r rwbel, meddai, ac mae unigolyn arall a gafodd ei achub wedi marw o’i anafiadau.

Mae tri o bobol eraill wedi cael eu hachub, yn ol yr awdurdodau, ac yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty.