Wrth i Pedro Sanchez dyngu llw wrth ddod yn Brif Weinidog Sbaen heddiw, fe benderfynodd wneud hynny heb Feibl na Chroes – yn groes i draddodiad y wlad.

Mae ei benodiad yn dechrau cyfnod newydd i Sbaen ar ôl i’r Ceidwadwr Mariano Rajoy gael ei ddisodli yn dilyn pleidlais o ddiffyg hyder yn y Senedd tros honiadau o lygredd.

Yn hytrach na dilyn y confensiwn o roi llaw ar y Beibl a dal y Groes yn ei law, fe dyngodd Pedro Sanchez lw i’r Brenin Felipe ac i Gyfansoddiad y wlad heb y naill na’r llall.

Dyma’r tro cyntaf ers diwedd cyfnod Franco yn 1975 i Brif Weinidog Sbaen wneud hynny.

Talcen caled

Fe fydd gwaith caled o flaen Pedro Sanchez wrth iddo geisio adfer gwlad sydd wedi cael ei heffeithio’n sylweddol gan doriadau am flynyddoedd lawer o dan lywodraeth Mariano Rajoy.

Mae e wedi addo cynnal etholiad yn fuan, ond does dim cadarnhad pryd fydd hynny’n digwydd.

Bydd e’n arwain llywodraeth leiafrifol, gan alw ar gefnogaeth Podemos ar yr asgell chwith, yn ogystal â phleidiau rhanbarthol a’r rhai sydd o blaid annibyniath i Gatalwnia.

O safbwynt Catalwnia, mae penodi’r Prif Weinidog newydd yn golygu diwedd ar reolaeth lym Sbaen, polisi sydd wedi bod yn ei le ers saith mis erbyn hyn yn dilyn y refferendwm annibyniaeth y llynedd oedd yn cael ei ystyried yn anghyfreithlon gan Sbaen.