Ar y diwrnod y cafodd Prif Weinidog newydd Sbaen, Pedro Sanchez, ei dderbyn yn ffurfiol i’w swydd, mae arweinydd newydd Catalwnia, Quim Torra wedi addo brwydro i sicrhau annibyniaeth.

Daw’r sylwadau wrth i saith mis o reolaeth Sbaen dros Gatalwnia ddod i ben fel rhan o’r gosb am fwrw ati i gynnal refferendwm annibyniaeth oedd yn cael ei ystyried gan Sbaen fel un anghyfreithlon.

Wrth benodi ei lywodraeth newydd, dywedodd Quim Torra fod “y llywodraeth hon yn derbyn y siars i fwrw ati gyda’r mandad i ffurfio gwladwriaeth annibynnol”.

Mae Quim Torra hefyd wedi mynegi ei ddymuniad i gynnal trafodaethau gyda Pedro Sanchez, gan alw arno’n uniongyrchol am gyfarfod.