Mae’r heddlu yn Kashmir wedi saethu at alarwyr yn angladd dyn a gafodd ei daro gan gerbyd milwrol a’i ladd yn ystod protest.

Roedd y galarwyr yn gorymdeithio gyda chorff y dyn i fynwent yn Srinagar fore heddiw pan geisiodd yr heddlu a milwyr eu hatal.

Yn ôl yr heddlu, roedd y dorf yn anwybyddu gorchymyn y llywodraeth sy’n gwahardd cyfarfod o fwy na phedwar o bobol yn y ddinas.

Yn ôl llygad-dystion, dechreuodd rhai o’r dorf daflu cerrig at filwyr i ddangos eu dicter eu bod nhw wedi meddiannu rhannau o’r ddinas.

Yn dilyn y brotest, roedd corff y dyn fu farw yn nwylo’r heddlu, a dim ond llond dwrn o berthnasau oedd wedi cael yr hawl i fynd i’w gladdu yn y fynwent.

Cafodd y dyn fu farw ei anafu’n ddifrifol ddydd Gwener, a bu farw yn yr ysbyty’n ddiweddarach.