Wythnos yn unig ar ôl canslo uwchgynhadledd gydag Arlywydd Gogledd Corea, Kim Jong Un, daeth cadarnhad fod Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump wedi gwneud tro pedol ac y bydd yn cael ei chynnal ar Fehefin 12 yn Singapore.

Daeth y cyhoeddiad ar ôl awr o gyfarfod ag un o swyddogion Gogledd Corea.

“Mae gennym gytundeb,” meddai’r Arlywydd wrth y wasg ar ôl y cyfarfod, cyn ychwanegu ei bod yn bosib y bydd angen mwy nag un cyfarfod i drafod y sefyllfa.

Ond fe ddywedodd ei fod yn ffyddiog o sicrhau “canlyniad positif iawn yn y pen draw”.

Llythyr

Rhoddodd swyddog o Ogledd Corea lythyr gan Kim Jong Un i’r Arlywydd Trump, ac fe ddywedodd y gallai fod yn wynebu “cryn syrpreis” wrth ei agor.

Mae’r cyhoeddiad yn dod ag wythnos o ansicrwydd i ben, yn dilyn nifer o ddatganiadau dryslyd yn ystod y cyfnod hwnnw.

Mae swyddogion o’r Unol Daleithiau, Singapore a Gogledd Corea wedi bod yn cyfarfod gydol yr wythnos yn barod ar gyfer yr uwchgynhadledd.

Dywedodd yr Arlywydd Trump ddechrau’r wythnos fod “cryn ddicter” gan Ogledd Corea tuag at yr Unol Daleithiau, ond ei fod yn obeithiol o ddod i gytundeb serch hynny.

Ddiwrnod yn unig yn ddiweddarach, awgrymodd fod cytundeb yn bosib yn dilyn ymateb cadarnhaol Gogledd Corea. Ei obaith, meddai, yw y bydd modd dadniwcleareiddio’r wlad yn llwyr.