Mae trafodaethau wedi ailddechrau rhwng Gogledd a De Corea, a hynny ar ôl i densiynau gynyddu rhwng y dwy wlad yn ystod y pythefnos diwetha’.

Mae’r cyfarfod ym mhentre’r ffin, Panmunjom, yn cael ei ystyried yn gam allweddol ymlaen i’r ddwy wlad yn sgil y ffrae ddiweddar ynghylch ymarferion milwrol.

Fe ddaeth hynny ar ôl cyfnod o glosio a chydweithio ac mae’r cyfan ynghlwm yn y trafod rhwng yr Unol Daleithiau a Gogledd Corea hefyd.

Aildrefnu uwchgynhadledd

Mae cyfarfod wedi’i gynnal rhwng yr Unol Daleithiau a’r Gogledd yn ddiweddar er mwyn ceisio aildrefnui uwchgynhadledd rhwng arweinyddion y ddwy wlad Donald Trump a Kim Jong Un, ar ôl i Arlywydd yr Unol Daleithiau benderfynu ohirio’r digwyddiad yr wythnos ddiwetha’

Mae disgwyl y bydd yr Unol Daleithiau yn cwrdd â swyddogion o Ogledd Corea unwaith eto yn Panmunjom a Singapore, er mwyn cadarnhau’r paratoadau ar gyfer y cyfarfod ar Fehefin 12.

Hynny ar ôl i’r Unol Daleithiau ganslo’r trefniant cynta’ ac wrth i Ogledd Corea wrthod galwadau am ddiarfogi niwclear unochrog.

Trafod ailuno teuluoedd

Mae disgwyl y bydd De Corea yn defnyddio’r cyfarfod â’r Gogledd er mwyn dechrau trafodaethau ar faterion milwrol, gan geisio lleihau’r tensiwn ar y ffin rhwng y ddwy wlad.

Maen nhw hefyd yn gobeithio parhau â’r trafodaethau i ailuno teuluoedd a gafodd eu gwahanu yn ystod Rhyfel Corea ddechrau’r 1950au, ynghyd â’r posibilrwydd o greu un tîm ar gyfer y Gêmau Asaidd fis Awst.