Mae dyn wedi’i ladd, a dau o bobol wedi’u hanafu, mewn ymosodiad â chyllell ar drên yn ninas Flensburg yn yr Almaen.

Mae’r heddlu wedi cadarnhau i’r ymosodiad ddigwydd tua 7yh neithiwr (nos Fercher, Mai 30).

Fe ddaeth cadarnhad hefyd mai plismones 22 oed oedd un o’r ddau gafodd eu hanafu.

Mae’r papur newydd dyddiol, Bild, yn adrodd fod dyn wedi ymosod ar ddyn arall gyda chyllell yn dilyn dadl, ac yna fe ddaeth un o swyddogion yr heddlu i ymyrryd yn y ffrae.