Mae dyn arfog wedi saethu dau heddwas ac aelod o’r cyhoedd yn farw yn ninas Liege yng ngwlad Belg.

Mae dau o bobol eraill wedi cael eu hanafu yn y digwyddiad.

Yn ôl y cwmni darlledu, RTBF, fe ddigwyddodd y saethu heddiw (dydd Mawrth, Mai 29) ger caffi ar Boulevard d’Avroy.

Fe redodd y dyn arfog o safle’r saethu, gan gymryd glanhawraig yn wystl a chuddio mewn ysgol gyfagos. Ond mae bellach wedi’i “niwtraleiddio” yn ôl yr heddlu a’r gwasanaeth tân.

Does yna ddim awgrym ar hyn o bryd fod a wnelo’r digwyddiad ddim â brawychiaeth.