Mae byddin Israel yn dweud fod mwy na 25 o fomiau mortar wedi’u tanio o Lain Gaza tuag ag gymunedau yn ne’r wlad.

Chafodd neb ei anafu, gan fod y rhan fwyaf o’r bomiau wedi’u rhwystro gan system y ‘Dôm Haearn’.

Ond mae’n ymddangos na chafodd cymaint â hyn o fomiau eu tanio mewn un digwyddiad ers dyddiau rhyfel Israel-Hamas yn 2014.

Mae ardal y ffin wedi bod yn un llawn tensiwn yn ystod yr wythnosau diwethaf, wrth i Balesteiniaid gynnal protestiadau yn yr ardal yn erbyn y blocâd gan Israel a’r Aifft sydd mewn grym ers 2007.

Mae byddin Israel wedi lladd mwy na 100 o Balesteiniaid yn ystod y gwrthdystio sy’n cael ei arwain gan Hamas.