Mae arlywydd y Palesteiniaid, Mahmoud Abbas, wedi cael ei anfon adref o’r ysbyty, ar ôl treulio wythnos yn ei wely.

Mae’r arweinydd 83 oed wedi siarad am ei fwriad i ddychwelyd at ei waith, ac mae wedi diolch i’w gefnogwyr ledled y byd am yr holl negeseuon tra’r oedd yn yr ysbyty.

“Diolch i Dduw fy mod yn cael gadael yr ysbyty, a fy mod i wedi gwella,” meddai. “Mi fydda’ i yn ôl yn y gwaith fory.

“Os mai’r dadlau a’r ffraeo tros Jerwsalem sydd wedi fy ngwneud i’n sâl, dw i eisiau gadael yr ysbyty tra bod Jerwsalem yn dal i fod yn brifddinas i ni.”

Mae’r Palesteiniaid wedi bod yn protestio’n chwyrn ers i’r Unol Daleithiau gyhoeddi ei bod am symud ei llysgenhadaeth o Tel Aviv i Jerwsalem, gan gyhoeddi mai prifddinas yr Iddewon oedd hi.

Fe gafodd Mahmoud Abbas ei gludo i’r ysbyty yr wythnos ddiwethaf yn dioddef o wres uchel – ddiwrnod yn unig wedi iddo gael llawdriniaeth ar ei glust. Roedd ei gefnogwyr yn dweud ei fod yn diodde’ o pniwmonia, a’i fod ar un adeg angen cymorth peiriant i anadlu.