Mae dyn o wledydd Prydain, sy’n hanu o Ethiopia yn wreiddiol ac a gafodd ei garcharu yn Yemen yn 2014, wedi cael ei ryddhau.

Cafodd Andargachew Tsige ei garcharu ar amheuaeth o droseddau brawychol, ac yntau’n arweinydd Ginbot 7 yn Eritrea.

Ond mae e bellach wedi cael ei esgusodi o dan “amgylchiadau arbennig”, meddai adroddiadau’r wasg.

Mae lle i gredu bod 600 o bobol yn cael eu rhyddhau o’r ddalfa.

Roedd awdurdodau yng ngwledydd Prydain wedi bod yn ceisio sicrhau ei fod yn cael ei ryddhau ers pedair blynedd.

Cafodd Prif Weinidog newydd Ethiopia, Abiy Ahmed ei ethol ym mis Ebrill.