Mae actor Hollywood, Morgan Freeman yn gwadu iddo ymosod yn rhywiol ar fenywod.

Dyma’i ail ddatganiad ar y mater ar ôl i ragor o honiadau gael eu gwneud am ei ymddygiad rhywiol.

Mae’r actor 80 oed wedi’i gyhuddo o ymddwyn mewn modd sydd wedi gwneud nifer o fenywod yn anghyfforddus yn ei gwmni, a hynny ar set ffilmiau ac yn ei gwmni cynhyrchu, Revelations Entertainment.

Mae CNN wedi bod yn ymchwilio i’r honiadau.

Yn dilyn yr adroddiadau gwreiddiol, ymddiheurodd yr actor wrth unrhyw un oedd wedi teimlo’n “anghyfforddus neu ddiffyg parch”.

Datganiad

Mewn datganiad o’r newydd, dywedodd Morgan Freeman fod yr honiadau’n “tanseilio” 80 mlynedd o’i fywyd “mewn amrantiad”.

Wrth groesawu rhoi llais i’r rhai sydd wedi dioddef ymosodiadau, dywedodd fod rhaid bod yn ofalus rhag cymharu honiadau o’r fath gyda “rhoi compliment neu ddefnyddio hiwmor”.

Dywedodd ei fod yn cydnabod ei fod yn teimlo bod rhaid “gwneud i fenywod – a dynion – deimlo fel pe baen nhw’n cael eu gwerthfawrogi”, a bod hynny wedi cael ei gamddeall.

Dywedodd mai dyna pam ei fod e wedi ymddiheuro ddydd Iau, ac fe wadodd iddo wneud unrhyw beth amhriodol.

CNN

Yn ôl CNN, mae 16 o bobol wedi disgrifio “patrwm ymddygiad” Morgan Freeman, gydag un ohonyn nhw, fu’n cydweithio ar y ffilm Going In Style yn honni bod yr actor wedi codi ei sgert droeon.

Mae hefyd wedi’i gyhuddo o wneud sylwadau am ddillad a chyrff nifer o fenywod, a rhai ohonyn nhw o flaen pobol eraill neu ar gamera.

Mae nifer o newyddiadurwyr hefyd wedi gwneud honiadau tebyg, gan gynnwys Chloe Melas, un o’r rhai oedd wedi cynnal yr ymchwiliad.