Mae Harvey Weinstein yn bwriadu pledio’n ddieuog i gyhuddiadau ei fod wedi treisio a cham-drin yn rhywiol, meddai ei gyfreithiwr heddiw.

Roedd y cynhyrchydd ffilmiau ger bron llys yn Manhattan yn Efrog Newydd, a dyma’r tro cyntaf iddo ymddangos yn gyhoeddus ers mis Hydref y llynedd.

Bryd hynny bu llu o ferched yn ei gyhuddo o gamymddwyn rhywiol.

Mae Harvey Weinstein wastad wedi gwadu iddo wneud unrhyw beth o’i le.

Mae ymchwiliadau troseddol i’r honiadau wedi’u lansio yn Efrog Newydd, Los Angeles a Llundain.