Mae disgwyl i’r cynhyrchydd ffilm Hollywood, Harvey Weinstein, gael ei arestio ddydd Gwener (Mai 25), yn gysylltiedig â honiadau o gamymddwyn rhywiol.

Yn ôl rhai adroddiadau, mae ymchwilwyr yn Efrog Newydd yn paratoi i’w arestio, ac mae yntau’n debygol o fynd at yr heddlu o’i wirfodd.

Mae dwsinau o fenywod wedi cyhuddo Harvey Weinstein o gamymddwyn yn rhywiol – gyda rhai yn ei gyhuddo o dreisio.

Ac erbyn hyn, mae ymchwiliadau troseddol i’r honiadau wedi’u lansio yn Efrog Newydd, Los Angeles a Llundain.

Dyw Harvey Weinstein ddim wedi’i gyhuddo o gyflawni unrhyw drosedd hyd yma.

Mae cyfreithiwr y cynhyrchydd yn mynnu “nad oes sail o gwbl” i’r honiadau, ac yn dweud na ddylai gael ei arestio oherwydd “doedd e heb dorri’r gyfraith” yn fwriadol.