Mae arlywydd yr Unol Daleithiau wedi canslo’r uwchgynhadledd a oedd i’w chynnal rhyngddo ag arweinydd Gogledd Corea yn Singapôr ddechrau Mehefin.

Fe ddaeth ei gyhoeddiad brynhawn Iau (Mai 24) wedi i wlad Kim Jong Un “daflu sen” at ei Ddirprwy Arlywydd, Mike Pence, meddai.

“Fe fyddai hi’n amhriodol i gynnal trafodaethau ar hyn o bryd, wedi i gyfundrefn Kim ymddwyn fel hyn drethu fy amynedd,” meddai Donald Trump.

“Maen nhw’n sôn am eu grym niwclear, ond mae ein grymoedd ni gymaint yn fwy, a dw i’n gweddïo ar Dduw na fydd yn rhaid i ni byth eu defnyddio nhw.”

Roedd dirprwy weinidog tramor Gogledd Corea, Choe Son Hui, wedi ymosod ar Mike Pence am ei sylwadau “byrbwyll” y gallai Gogledd Corea “ddiweddu i fyny fel Libya”.