Mae dadansoddi agos o luniau a ffilmiau o ddamwain awyren, yn profi mai taflegryn o Rwsia oedd yn gyfrifol am saethu awyren Malaysia Airlines MH17 i lawr i’r ddaear.

Dyna ddyfarniad y rheiny sydd wedi bod yn ymchwilio i’r digwyddiad dros ddwyrain yr Wrcain.

Mae erlynwyr yn dweud eu bod wedi cyflwyno’r adroddiad i lywodraeth Rwsia, a’u bod yn aros am atebion. Mae Rwsia wedi gwadu o’r dechrau bod ganddi hi unrhyw beth i’w wneud â’r ddamwain.

Yn y cyfamser, mae’r tim ymchwilio wedi gwneud apêl am dystiolaeth bellach gan unrhyw un sy’n gwybod am frigad o fyddin Rwsia oedd wedi’i lleoli yn ninas Kursk ar y pryd.