Mae dau glaf ag Ebola wedi marw ar ôl dianc o ysbyty yn y Congo.

Roedd y cleifion wedi bod yn derbyn triniaeth yn ninas Mbandaka, yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo – dinas â phoblogaeth o 1.2 miliwn.

Mi wnaethon nhw ffoi o’r safle gyda’r nos, a gyda chymorth eu teuluoedd.

Cafodd un ei gludo yn ôl i’r ysbyty lle bu farw, a chafodd y llall ei gludo yn ôl wedi iddo farw.

Hyd yma, mae 27 o bobol wedi marw o Ebola yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, ac mae meddygon wrthi’n trin 28 unigolyn sydd wedi’u heintio.