Fe fydd tua 2,300 o bobol ddigartref yn cael eu clirio o Paris, a’r rheiny’n cynnwys y mewnfudwyr a’r ffoaduriaid sy’n gwersylla ger camlas yn y ddinas.

Mae’r cyhoeddiad hwn gan Weinidog Cartref Ffrainc, Gerard Collomb, yn ymgais i leihau nifer y bobol sy’n llochesu yn y gwersyll anferth ger Canal Saint-Martin yng nghanol y ddinas.

Mae’n gartref i gannoedd o bobol, ac yn ystod y mis diwetha’ mae sawl ffrwgwd wedi bod yno ac mae dau o ddynion wedi boddi.

Yn ystod y tair blynedd diwetha’, mae tua 28,000 o fewnfudwyr a ffoaduriaid wedi cael eu cludo o’r brifddinas, ond nid yw hyn wedi rhwystro’r niferoedd sy’n dal i ddod i fewn.

Ers tro, mae yna ddadl wedi bod rhwng y Gweinidog â Maer Paris, Anne Hidalgo, ynglŷn â ble y dylai’r bobol gael eu cartrefu, a sut y mae datrys y broblem.

Ond mae Geard Colomb wedi dweud ei fod yn “gresynu” nad yw’r Maer wedi gwneud un dim i glirio’r strydoedd. Does ganddo ef, meddai, ddim dewis ond gweithredu.