Mae Archesgob Adelaide, Philip Wilson wedi camu o’i swydd am y tro, yn dilyn honiadau o gelu gwybodaeth am droseddau rhyw yn yr Eglwys Gatholig Rufeinig. Ond mae’n mynnu na fydd yn ymddiswyddo.

Fe’i cafwyd yn euog ddydd Mawrth (Mai 22) o gelu gwybodaeth am gam-drin dau o fechgyn gan offeiriad yn y 1970au. Mae’r Archesgob 67 oed yn byw gyda chyflwr Alzheimer erbyn hyn.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth, ond mae’n wynebu cyfnod o ddwy flynedd dan glo pan fydd yn cael ei ddedfrydu fis nesaf.

Dydi hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd e’n apelio yn erbyn dyfarniad y llys.

Ymchwiliad

Daeth ymchwiliad ym mis Rhagfyr i’r casgliad y dylai’r Eglwys Gatholig wyrdroi’r disgwyliad i offeiriaid ymatal rhag cael perthynas rywiol, ac y dylid erlyn offeiriaid am fethu ag adrodd am dystiolaeth o bedoffilia wrth i bobol gyffesu.

Yn ôl tystiolaeth un llanc yn achos llys yr Archesgob Wilson ei fod e wedi gwrthod credu ei honiadau ei fod e wedi cael ei gamdrin yn y 1970au.

Mae’r ymchwiliad ar y gweill ers 2012, ac mae wedi clywed gan fwy nag 8,000 o bobol sydd wedi cael eu camdrin.

O blith y rhai sydd wedi’u camdrin, roedd 62% ohonyn nhw’n Gatholigion.