Fydd yna ddim triniaeth arbennig i Ogledd Corea cyn uwchgynhadledd y mis nesaf, meddai Dirprwy Arlywydd yr Unol Daleithiau.

Er hyn, mae Mike Pence yn dweud fod y Tŷ Gwyn yn dal i fod â meddwl agored am yr uwchgynhadledd rhwng Donald Trump a Kim Jong Un.

Mae wedi nodi hefyd mai arweinydd Gogledd Corea oedd yr un a anfonodd y gwahoddiad i Donald Trump yn y lle cyntaf.

Mae disgwyl i’r uwchgynhadledd gael ei chynnal yn Singapôr ar Fehefin 12, er bod y tensiynau rhwng Gogledd Corea a’r Unol Daleithiau wedi cynyddu rywfaint yn ystod yr wythnos ddiwetha’.

Ond mae Mike Pence yn dweud bod paratoadau ar gyfer y digwyddiad hanesyddol yn dal i fynd rhagddynt.