Mae Llywodraeth Sweden wedi darparu llyfryn yn nodi beth ddylai pobol y wlad ei wneud mewn cyfnodau o argyfwng – gan gynnwys rhyfel.

Mae’r llyfryn 20 tudalen, Os Daw Argyfwng neu Ryfel, yn fersiwn diwygiedig o daflen wybodaeth a gafodd ei chyhoeddi gyntaf yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac a gafodd ei hailgyhoeddi wedyn trwy gydol cyfnod y Rhyfel Oer.

Ei brif nod yw gwneud pobol “yn fwy parod” i gyfnodau pan fydd gwasanaethau cyhoeddus yn dod i stop, tywydd gwael, ymosodiadau seibr a hyd yn oed ryfel.

Mae’r llyfryn yn adlewyrchiad o bryder Sweden am y bygythiadau cynyddol y mae hi’n ei hwynebu yn ardal y Baltig.

Mae Rwsia wedi cynyddu ei phresenoldeb milwrol yn yr ardal yn ystod y blynyddoedd diwetha’, yn enwedig ar ôl gorchfygu’r Wcrain yn 2014.

Yn ôl y llyfryn, mae gan bob un o boblogaeth Sweden, sef tua deg miliwn o bobol, “gyfrifoldeb” i weithredu pe bai’r wlad yn cael ei bygwth mewn rhyw ffordd.