Mae llys yn yr Almaen wedi gwrthod cais gan erlynwyr i gymryd cyn-Arlywydd Catalwnia, Carles Puigdemont, yn ôl i’r ddalfa.

Fe gafodd Carles Puigdemont ei arestio yn gyntaf gan yr heddlu yn yr Almaen ar Fawrth 25, a hynny tra oedd yn croesi’r ffin o Ddenmarc.

Roedd hyn ar ôl i’r prif lys yn Sbaen gyhoeddi gwarant Ewropeaidd ar gyfer ei arestio ef ac aelodau o’i gabinet ar gyhuddiadau o wrthryfela a cham-ddefnyddio arian cyhoeddus

Mae’r rhain yn deillo o’r refferendwm am annibyniaeth a gafodd ei gynnal yng Nghatalwnia fis Hydref y llynedd, gyda Sbaen yn dweud bod y digwyddiad wedi’i gynnal yn ‘anghyfreithlon’.

Fe gafodd Carles Puigdemont, sydd ar hyn o bryd yn alltud o’i wlad, ei ryddhau ar Ebrill 6, a hynny ar ôl i lys ddod i’r casgliad na allai gael ei estraddodi yn ôl i Sbaen am wrthryfela.

Ond erbyn hyn, mae erlynwyr yn Schleswig yn dweud eu bod nhw wedi derbyn gwybodaeth newydd gan yr awdurdodau yn Sbaen, sy’n golygu bod ail-arestio’r gwleidydd 55 oed yn bosib.

Mae’r cais wedi cael ei wrthod gan lys y rhanbarth.