Mae archesgob yn Awstralia wedi cael ei ganfod yn euog o gelu achosion o gam-drin plant o fewn yr Eglwys Gatholig yn y 1970au.

Archesgob Adeilaide, Phillip Wilson, yw’r clerigwr Catholig uchaf ei statws i gael ei ddedfrydu am y fath gyhuddiad, ac fe all wynebu dwy flynedd o garchar.

Fe gafodd y clerigwr 67 oed, sy’n dioddef o glefyd Alzheimer, ei ddedfrydu yn Llys Lleol Newcastle sydd tua’r gogledd o Sydney, yn dilyn achos llys.

Roedd wedi pledio’n ddieuog i ddau gyhuddiad o gelu gwybodaeth am drosedd a gafodd ei gyflawni gan gydweithiwr iddo, sef yr offeiriad James Fletcher, a wnaeth gam-drin dau blentyn allor yng nghanol y 1970au.

Yn ôl yntau, doedd ganddo ddim cof am y ddau fachgen yn cyfaddef iddo eu bod nhw wedi cael eu cam-drin gan ei gydweithiwr.

Ond fe ddywedodd y barnwr fod un o’r ddau fachgen, sef Peter Creigh, wedi bod yn dyst “gonest a dibynadwy”.

Yr achos yn parhau

Mae Phillip Wilson ar hyn o bryd wedi’i ryddhau ar fechnïaeth, ac fe fydd ym ymddangos gerbron y llys unwaith eto ar Fehefin 9.

Mewn datganiad gan yr Eglwys Gatholig, mae’r archesgob wedi dweud ei fod yn “siomedig” â’r dyfarniad.

“Fe fydd rhaid imi yn awr ystyried y rhesymau ac ymgynghori â’m cyfreithwyr i benderfynu ar y camau nesaf,” meddai.