Mae nyrs wedi marw o Ebola mewn pentref anghysbell yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo.

Bu farw’r gweithiwr iechyd yn Bikoro, ac mae’r farwolaeth yn cyd-daro â lansiad ymgyrch brechu yn y wlad.

Mae cyfres o achosion wedi’u cofnodi yn y wlad yn ddiweddar, a hyd yma mae 27 o bobol wedi marw.

Bellach mae 24 arbenigwr o’r Congo a Guinea wedi dechrau ar y gwaith o frechu pobol yn ardal Mbandaka, ac mae disgwyl i filoedd dderbyn chwistrelliad.

Bu farw 11,300 o bobol yn Guinea, Sierra Leone a Liberia, pan darodd yr afiechyd rhwng 2014 a 2016.