Mae’n debygol y bydd athro yn y Gyfraith – dyn sydd heb unrhyw brofiad gwleidyddol – yn cael ei benodi’n Brif Weinidog nesaf yr Eidal.

Mae pleidiau’r Mudiad Pum Seren a’r Gynghrair – dwy blaid sydd wedi ffurfio clymblaid i Lywodraethu – eisoes wedi nodi mai Giuseppe Conte yw eu ffefryn ar gyfer y swydd.

Ac os bydd yr Arlywydd, Sergio Mattarella, yn derbyn yr enwebiad, fe fydd Giuseppe Conte yn dod yn Brif Weinidog. Yn sgil hynny, bydd modd ffurfio cabinet.

Asgell dde

Mae’r glymblaid wedi’i disgrifio fel un sy’n ceisio apelio at yr etholwyr trwy gynnig polisïau poblogaidd sy’n osio at y dde.

Ymhlith y polisïau sydd wedi’u cynnig gan y blaid, mae’r amcan o wella perthynas y wlad â Rwsia, a thynhau rheolau mewnfudo.