Mae’r Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, wedi beirniadu’r etholiad arlywyddol diweddaraf yn Feneswela, gan ei ddisgrifio’n etholiad “hynod ddiffygiol”.

Mae’r Arlywydd Nicolas Maduro wedi cael ei ailethol i’r swydd am chwe blynedd arall yn sgil pleidlais mewn cyfnod o brinder bwyd yn y wlad.

Fe wrthododd ei wrthwynebydd, Henri Falcon, gymryd rhan yn yr etholiad ar ôl honni bod yr Arlywydd presennol yn euog o dwyll etholiadol.

Mae Henri Falcon eisoes wedi gwrthod canlyniad y bleidlais, ac wedi galw am etholiadau newydd.

“erydu democratiaeth”

Mae Boris Johnson, sydd ar hyn o bryd ar daith bump diwrnod yn ne America, wedi dweud nad oedd yr etholiadau yn “rhydd nac yn deg”, gan ychwanegu y byddai’n cydweithio ag arweinyddion rhanbarthol a’r Undeb Ewropeaidd i lunio ymateb gwleidyddol.

“Dw i’n siomedig, ond ddim wedi fy syfrdanu, fod Maduro wedi parhau gydag etholiadau hynod ddiffygiol i sicrhau ei oroesiad ei hun,” meddai.

“Doedden nhw ddim yn rhydd nac yn deg, ac maen nhw wedi erydu democratiaeth Feneswela ymhellach.”

“Mae yna angen brys i ailsefydlu democratiaeth, rhyddhau carcharorion gwleidyddol a pharchu’r Cynulliad Cenedlaethol a gwrthwynebiad gwleidyddol.”

Dywedodd hefyd fod angen i Lywodraeth Feneswela adael i’r gymuned ryngwladol ddarparu nwyddau meddyginiaethol a bwydydd i’r wlad, a hynny wrth i’r argyfwng economaidd a dyngarol waethygu yn y wlad.