Mae 10 o ddisgyblion wedi cael eu lladd mewn ysgol yn Tecsas ar ôl i fachgen 17 oed saethu atyn nhw.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad, y gwaethaf yn America ers y lladdfa yn Fflorida dri mis yn ôl, yn nhref Santa Fe, 30 milltir i’r de-ddwyrain o Houston.

Disgrifiodd llywodraethwr Tecsas, Greg Abbott, y digwyddiad fel “un o’r ymosodiadau mwyaf ciaidd a welwyd erioed yn hanes ysgolion Tecsas”.

Cafodd y saethwr ei arestio a’i enwi Dimitrios Pagourtzis, ac mae wedi ymddangos gerbron llys ar gyhuddiad o lofruddio.

Tecsas yw un o’r taleithiau lle mai lleiaf o reolaeth ar ynnau yn America.