Mae’r llosgfynydd, Kilauea, ar ynys fawr Hawaii wedi ffrwydro yn ystod oriau mân y bore, gan boeri llwch i tua 30,000 troedfedd uwchben lefel y môr.

Fe fu’r ffrwydrad ar gopa’r llosgfynydd toc wedi 4yb heddiw (dydd Gwener, Mai 18), yn dilyn pythefnos o weithgaredd lle mae lafa wedi dinistrio o leiaf 26 o gartrefi a gorfodi 2,000 o bobol i ffoi am ddiogelwch.

Yn ôl gwyddonwyr, y ffrwydrad heddiw yw’r un mwyaf pwerus yn y dyddiau diwethaf, er na wnaeth ond para ychydig funudau.

Mae daearegwyr wedi rhybuddio hefyd y gall y llosgfynydd droi’n ffyrnicach, gyda lefelau uwch o ludw yn cael ei gynhyrchu ganddo a’r posibilrwydd o gerrig mawrion yn cael eu taflu trwy’r awyr.

Kilauea yw un o losgfynyddoedd mwyaf cynhyrfus y byd, ac mae wedi bod yn echdorri’n gyson ers 1983.

Mae’n un o’r pum llosgfynydd sy’n ffurfio ynys fawr Hawaii, a’r unig un sydd wedi echdorri’n ddiweddar.