Mae daeargrynfeydd yn achosi difrod i ffyrdd ac adeiladau ar ynys fawr Hawaii, wrth i golofn o fwg barhau i godi o losgfynydd Kilauea.

Roedd y daeargryn mwyaf yn mesur 4.4 ar y raddfa, ac mae gwyddonwyr yn dweud bod llawr crater y llosgfynydd wedi suddo tair troedfedd.

Ond maen nhw hefyd yn dweud bod y golofn o fwg wedi lleihau ers echdoe, pan oedd yn ymestyn mor uchel â 12,000 troedfedd uwchben lefel y môr.

Tuag 25 milltir i ffwrdd o’r llosgfynydd wedyn, mae lafa yn cael ei boeri o graciau yn y ddaear, ac hyd yn hyn mae wedi dinistrio dwsinau o gartrefi a gorfodi tua 2,000 o bobol i ffoi am ddiogelwch.

Mae’r gwyddonwyr yn dweud y gall y daeargrynfeydd achosi craciau pellach yn y ddaear, a fydd yn galluogi’r lafa i ledaenu.