Mae’r golofn o fwg a llwch sydd wedi codi o losgfynydd Kilauea yn Hawaii yn ymestyn mor uchel â 12,000 troedfedd uwchben lefel y môr, meddai gwyddonwyr.

Mae lludw o grater Halemaumau wedi cael ei gario i gyfeiriad y de-orllewin, gan achosi llygredd mor bell â 18 milltir o’r safle.

Mae’r awdurdodau wedi cyhoeddi rhybudd ‘coch’ ar gyfer peilotiaid a phobol sy’n rheoli awyrennau yn yr ardal.

Ers i’r llosgfynydd echdorri gyntaf ar Fai 3, mae gwyddonwyr bellach yn sylwi ar grac newydd yn ardal Gerddi Lanipuna, gyda lafa a nwyon gwenwynig yn dechrau cael eu poeri i’r aer yno.