Mae heddlu yn y Swistir yn ymchwilio i farwolaeth amheus gyrrwr car o’r Almaen.

Bu farw’r dyn, 48, ar ôl i’w gerbyd Tesla wyro oddi ar briffordd, a mynd ar dân.

Mae awdurdodau wedi awgrymu mai batri’r car wnaeth achosi’r ddamwain, ac mae rhai wedi tynnu sylw at achosion tebyg yn yr Unol Daleithiau.

Bu farw dau berson yn Florida yr wythnos ddiwetha’ pan wnaeth y car Tesla yr oedden nhw ynddo, fynd ar dân.